Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024
2024 dsc 2
Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghymru; ar gyfer strategaeth genedlaethol i asesu a rheoli seinweddau yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
[14 Chwefror 2024]
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

