RHAN 2LL+CCYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 1LL+CPŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH

9Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8 LL+C

(1)Caniateir darparu cymorth yn ariannol neu fel arall.

(2)Caniateir darparu cymorth ariannol drwy grant, benthyciad neu warant, neu ar unrhyw ffurf arall.

(3)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i fodloni meini prawf o ran cymhwysedd.

(4)Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r defnydd o dir, caniateir i’r meini prawf cymhwysedd (ymysg pethau eraill) bennu gofynion yn ymwneud ag—

(a)hectarau neu nodweddion y tir;

(b)i ba raddau y mae rhaid i’r tir gael ei ddefnyddio ar gyfer neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth neu weithgareddau ategol;

(c)y person y darperir cymorth iddo (er enghraifft drwy gyfeirio at ddefnydd neu ddefnydd fwriadedig y person o’r tir).

(5)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caniateir i’r amodau (ymysg pethau eraill) gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol gael ei ad-dalu neu ar gyfer gwneud iawn amdano fel arall (gyda llog neu beidio).

(7)Caniateir darparu cymorth i wneuthurwr neu weithredwr cynllun trydydd parti mewn cysylltiad â sefydlu neu weithredu’r cynllun hwnnw (gan gynnwys mewn cysylltiad â darparu cymorth o dan y cynllun hwnnw).

(8)

(9)Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo i unrhyw berson arall swyddogaethau sy’n ymwneud â darparu cymorth.

(10)Caiff swyddogaethau a ddirprwyir o dan is-adran (9) gynnwys—

(a)rhoi canllawiau;

(b)arfer disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)