(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.
(2)Caiff y cymorth hwnnw, yn benodol, gynnwys cymorth ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn, neu mewn cysylltiad â hwy—
(a)annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy;
(b)helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau;
(c)gwella gwytnwch busnesau amaethyddol;
(d)cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd;
(e)lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
(f)atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl;
(g)cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;
(h)cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol;
(i)gwella ansawdd yr aer;
(j)gwella ansawdd dŵr;
(k)cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy;
(l)lliniaru risgiau o lifogydd a sychder;
(m)cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid;
(n)sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl;
(o)annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir).
(3)Caniateir i gymorth o dan yr adran hon gael ei ddarparu o dan gynllun neu fel arall.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) drwy—
(a)ychwanegu diben at y rhestr yn yr is-adran honno;
(b)dileu diben o’r rhestr;
(c)newid disgrifiad o ddiben ar y rhestr.
(5)Yn yr adran hon, mae i “nwy tŷ gwydr” yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3).
(6)Yn y Bennod hon—
(a)mae cyfeiriadau at gymorth (ac eithrio yn achos cyfeiriadau at ddarparu cymorth o dan gynllun trydydd parti o fewn adran 9(8)) yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon;
(b)mae cyfeiriadau at gymorth ariannol yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon sy’n cael ei ddarparu’n ariannol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)