RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.
PENNOD 1PŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH
8Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.
(2)
Caiff y cymorth hwnnw, yn benodol, gynnwys cymorth ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn, neu mewn cysylltiad â hwy—
(a)
annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy;
(b)
helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau;
(c)
gwella gwytnwch busnesau amaethyddol;
(d)
cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd;
(e)
lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
(f)
atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl;
(g)
cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;
(h)
cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol;
(i)
gwella ansawdd yr aer;
(j)
gwella ansawdd dŵr;
(k)
cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy;
(l)
lliniaru risgiau o lifogydd a sychder;
(m)
cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid;
(n)
sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl;
(o)
annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir).
(3)
Caniateir i gymorth o dan yr adran hon gael ei ddarparu o dan gynllun neu fel arall.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) drwy—
(a)
ychwanegu diben at y rhestr yn yr is-adran honno;
(b)
dileu diben o’r rhestr;
(c)
newid disgrifiad o ddiben ar y rhestr.
(5)
Yn yr adran hon, mae i “nwy tŷ gwydr” yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3).
(6)
Yn y Bennod hon—
(a)
mae cyfeiriadau at gymorth (ac eithrio yn achos cyfeiriadau at ddarparu cymorth o dan gynllun trydydd parti o fewn adran 9(8)) yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon;
(b)
mae cyfeiriadau at gymorth ariannol yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon sy’n cael ei ddarparu’n ariannol.