RHAN 1LL+CRHEOLI TIR YN GYNALIADWY

Monitro ac adrodd LL+C

7Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiadau LL+C

Wrth lunio adroddiad o dan adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(b)y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddir o dan adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(c)yr Adroddiad Effaith diweddaraf (os oes un) a gyhoeddir o dan adran 14, a

(d)unrhyw faterion eraill (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynhyrchu amaethyddol neu incwm busnesau amaethyddol, sy’n deillio o arolygon o’r sector) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(a)