RHAN 1RHEOLI TIR YN GYNALIADWY
Monitro ac adrodd
7Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiadau
Wrth lunio adroddiad o dan adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a)
yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,
(b)
y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddir o dan adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,
(c)
yr Adroddiad Effaith diweddaraf (os oes un) a gyhoeddir o dan adran 14, a
(d)
unrhyw faterion eraill (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynhyrchu amaethyddol neu incwm busnesau amaethyddol, sy’n deillio o arolygon o’r sector) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.