RHAN 6CYFFREDINOL
56Dod i rym
(1)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
Rhan 4 at y dibenion o wneud rheoliadau o dan adran 32 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10);
(b)
y Rhan hon, ac eithrio adran 55 ac Atodlenni 2 a 3.
(2)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
Rhan 1;
(b)
Pennod 1 o Ran 2;
(c)
Pennod 2 o Ran 2;
(d)
Rhan 5.
(3)
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Atodlen 2, ac adran 55 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, hefyd i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
paragraff 1(5)(b) at ddibenion cymhwyso adran 53(5)(a) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) mewn perthynas â Rhan 1 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno;
(b)
paragraff 1(9) at ddibenion diddymu Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020;
(c)
paragraff 2;
(d)
Rhan 2.
(4)
Ac eithrio fel a ddarperir gan is-adrannau (1) i (3), daw darpariaethau y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(5)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—
(a)
gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed;
(b)
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.