RHAN 6CYFFREDINOL

54Dehongli arall

Yn y Ddeddf hon—

mae “addasu” (“modify”) yn cynnwys diwygio, dirymu a diddymu (ac mae ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol â hynny);

ystyr “annedd breifat” (“private dwelling”) yw hynny o unrhyw dir sy’n cynnwys—

(a)

adeilad neu strwythur arall a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, neu

(b)

gardd, iard, garej preifat neu dŷ allan a fwynheir gydag adeilad neu strwythur o’r fath;

ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—

(a)

Mesur Cynulliad;

(b)

Deddf gan Senedd Cymru;

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

ystyr “is-ddeddfwriaeth” (“subordinate legislation”) yw offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol neu o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir;

mae “planhigion” (“plants”) yn cynnwys ffwng;

ystyr “y Rheoliad CMO” (“the CMO Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol;

mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau.