RHAN 6CYFFREDINOL

53Pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio adrannau 51 a 52 drwy reoliadau.

(2)

Cyn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru (at ddibenion adran 50(6)), rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a bennir yn is-adrannau (3) a (4).

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar ddrafft arfaethedig o’r rheoliadau ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y rheoliadau yn effeithio arnynt.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig,

(b)

ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)

cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(5)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru at ddibenion adran 50(6), rhaid iddynt gynnwys gyda’r drafft ddatganiad sydd—

(a)

yn pennu a oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt o dan is-adran (3) a rheoliadau o dan yr adran hon a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, a

(b)

os oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt a’r rheoliadau a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, yn rhoi manylion ynghylch y gwahaniaethau hynny.

(6)

Ni chaniateir i offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 50(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 40 niwrnod, gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir yr offeryn statudol drafft, ddod i ben.

(7)

Wrth gyfrifo a yw cyfnod o 40 niwrnod wedi dod i ben at ddibenion is-adran (6), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.