RHAN 6CYFFREDINOL
52Ystyr “gweithgaredd ategol”
Yn y Ddeddf hon, ystyr, “gweithgaredd ategol” yw—
(a)
gweithredu, ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth—
(i)
i greu a rheoli cynefinoedd, neu at ddibenion eraill sy’n ymwneud â chadwraeth natur,
(ii)
i liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd, neu
(iii)
i gynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;
(b)
gwerthu, marchnata, paratoi, pecynnu, prosesu neu ddosbarthu cynhyrchion sy’n deillio o amaethyddiaeth.