(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “amaethyddiaeth” yw—
(a)garddwriaeth;
(b)ffermio cnydau âr;
(c)ffermio gwartheg godro;
(d)cadw a bridio da byw;
(e)defnyddio tir fel tir pori;
(f)defnyddio tir fel coetir fferm neu ar gyfer amaeth-goedwigaeth;
(g)amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir;
(h)tyfu fel arall blanhigion i’w gwerthu, neu ar gyfer gwerthu rhan o blanhigyn;
(i)cynnal tir mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer gweithgaredd a restrir ym mharagraffau (a) i (h).
(2)Yn is-adran (1)—
mae “da byw” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw anifail a gedwir i gynhyrchu bwyd, diod, olewau, ffibrau neu ledrau, neu i bori tir;
ystyr “amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir” yw tyfu planhigion mewn ecosystem gaeedig sy’n caniatáu i amrywiolion amgylcheddol (gan gynnwys tymheredd, lleithder, golau a maethynnau) gael eu rheoli.
(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at farchnadoedd amaethyddol, busnesau amaethyddol, cynhyrchwyr amaethyddol a chynhyrchion amaethyddol i’w dehongli yn unol ag is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 mewn grym ar 18.8.2023, gweler a. 56(1)(b)