RHAN 6CYFFREDINOL
51Ystyr “amaethyddiaeth” a chyfeiriadau perthnasol
(1)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “amaethyddiaeth” yw—
(a)
garddwriaeth;
(b)
ffermio cnydau âr;
(c)
ffermio gwartheg godro;
(d)
cadw a bridio da byw;
(e)
defnyddio tir fel tir pori;
(f)
defnyddio tir fel coetir fferm neu ar gyfer amaeth-goedwigaeth;
(g)
amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir;
(h)
tyfu fel arall blanhigion i’w gwerthu, neu ar gyfer gwerthu rhan o blanhigyn;
(i)
cynnal tir mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer gweithgaredd a restrir ym mharagraffau (a) i (h).
(2)
Yn is-adran (1)—
mae “da byw” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw anifail a gedwir i gynhyrchu bwyd, diod, olewau, ffibrau neu ledrau, neu i bori tir;
ystyr “amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir” yw tyfu planhigion mewn ecosystem gaeedig sy’n caniatáu i amrywiolion amgylcheddol (gan gynnwys tymheredd, lleithder, golau a maethynnau) gael eu rheoli.
(3)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at farchnadoedd amaethyddol, busnesau amaethyddol, cynhyrchwyr amaethyddol a chynhyrchion amaethyddol i’w dehongli yn unol ag is-adran (1).