RHAN 6CYFFREDINOL

49Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.

(1)

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)

darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;

(b)

darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).