RHAN 5BYWYD GWYLLT
45Trosolwg o’r Rhan
(1)
Mae’r Rhan hon yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).
(2)
Gwneir hyn—
(a)
i wahardd y defnydd (gan gynnwys defnydd trwyddedig) o fagl neu unrhyw atalydd cebl arall at y diben o ladd neu drapio anifail gwyllt, a’r defnydd o fagl neu unrhyw atalydd cebl arall mewn unrhyw fodd arall sy’n debygol o anafu anifail gwyllt,
(b)
i wahardd y defnydd o drap glud at y diben o ladd neu gymryd anifail, a defnyddio trap glud mewn unrhyw fodd arall a fyddai’n debygol o ddal anifail, ac
(c)
i addasu’r gwaharddiad ar ddefnyddio trapiau, unrhyw ddyfais drydanol i ladd neu stynio, neu unrhyw sylwedd gwenwynig, sylwedd a wenwynwyd neu sylwedd llesgáu, fel ei fod yn gymwys pan fo eu defnydd yn debygol o niweidio anifail gwyllt.