RHAN 4COEDWIGAETH
44Diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Coedwigaeth 1967
(1)
Mae Deddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 10 (cais am drwydded cwympo coed a phenderfyniad awdurdod priodol), yn is-adran (2), ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “or”.
(3)
Yn adran 12 (trwyddedau amodol), yn is-adran (1), ar ôl “section 10(2)” mewnosoder “(a) or (b)”.
(4)
Yn adran 26 (treuliau etc. mewn cysylltiad â hysbysiadau)—
(a)
yn y pennawd, ar y diwedd, mewnosoder “, s. 24C(3) or s. 24D(2)”;
(b)
yn is-adran (1)—
(i)
ar ôl “under section 24”, mewnosoder “, section 24C(9) or section 24D(4)”;
(ii)
yn lle “under that section” rhodder “under either of those sections”.
(5)
Yn adran 27 (Pwyllgorau cyfeirio)—
(a)
yn y pennawd, yn lle “and 25” rhodder “, 25, 26A, 26B and 26C”;
(b)
yn is-adran (1), yn lle “and 25” rhodder “, 25, 26A, 26B and 26C”.
(6)
Yn adran 29 (darpariaethau’n ymwneud â morgeisi a thir setledig)—
(a)
yn is-adran (1), ym mharagraff (a), yn lle “or section 26” rhodder “, 26, 26D, 26E or 26F”;
(b)
yn is-adran (3), yn lle “or section 26” rhodder “, 26, 26D, 26E or 26F”.
(7)
Ym mhennawd adran 31 (penderfynu ar faterion sy’n codi o dan adrannau 11, 14, 21 a 22), yn lle “and 22” rhodder “, 22, 26D, 26E and 26F”.