RHAN 4COEDWIGAETH

36Trosolwg o’r Rhan

Mae’r Rhan hon yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) o ran Cymru—

(a)

er mwyn ehangu’r ystod o amgylchiadau pan ganiateir atodi amodau at drwyddedau cwympo coed;

(b)

er mwyn galluogi diwygio trwyddedau cwympo coed drwy gytundeb;

(c)

pan fo amod trwydded cwympo coed yn cael ei dorri neu wedi ei dorri, er mwyn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i amrywio neu hepgor amodau’r drwydded, neu i ychwanegu amodau pellach, neu i atal y drwydded dros dro neu ei dirymu, a’i gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd yn dilyn torri’r amod;

(d)

pan fo cwympo coed yn unol â thrwydded cwympo coed yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed sylweddol i agweddau penodol ar yr amgylchedd, er mwyn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i ddiwygio’r drwydded cwympo coed neu ei hatal dros dro neu ei dirymu;

(e)

er mwyn dileu’r cyfyngiad ar ddirwyon y caniateir eu rhoi am y drosedd o gwympo coed heb awdurdod trwydded cwympo coed;

(f)

er mwyn gwneud darpariaeth sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (c) a (d).