(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch dosbarthiad, dull adnabod a chyflwyniad carcasau buchol, moch a defaid gan ladd-dai yng Nghymru.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth am orfodi, a gaiff gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—
(a)ynghylch darparu gwybodaeth;
(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;
(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;
(d)ynghylch cadw cofnodion;
(e)sy’n gosod cosbau ariannol;
(f)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;
(g)sy’n creu troseddau diannod y bydd modd eu cosbi drwy ddirwy (neu ddirwy nad yw’n uwch na swm a bennir yn y rheoliadau, ac na chaiff fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol);
(h)ynghylch trwyddedau, achrediadau, awdurdodiadau a gofynion cofrestru;
(i)ynghylch apelau;
(j)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.
(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)
I2A. 35 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(d)