RHAN 3MATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL
PENNOD 3DOSBARTHIAD CARCASAU PENODOL ETC.
35Dosbarthiad carcasau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch dosbarthiad, dull adnabod a chyflwyniad carcasau buchol, moch a defaid gan ladd-dai yng Nghymru.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth am orfodi, a gaiff gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—
(a)
ynghylch darparu gwybodaeth;
(b)
sy’n rhoi pwerau mynediad;
(c)
sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;
(d)
ynghylch cadw cofnodion;
(e)
sy’n gosod cosbau ariannol;
(f)
ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;
(g)
sy’n creu troseddau diannod y bydd modd eu cosbi drwy ddirwy (neu ddirwy nad yw’n uwch na swm a bennir yn y rheoliadau, ac na chaiff fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol);
(h)
ynghylch trwyddedau, achrediadau, awdurdodiadau a gofynion cofrestru;
(i)
ynghylch apelau;
(j)
sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson.
(3)
Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.