(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).
(2)Yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).
(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—
(a)darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol am beidio â chydymffurfio â gofynion, boed hwy’n gosbau—
(i)o swm penodedig,
(ii)o swm a gyfrifir mewn modd penodedig,
(iii)o swm, heb fod yn fwy nag uchafswm penodedig neu uchafswm a gyfrifir mewn modd penodedig, a benderfynir gan berson penodedig neu berson o ddisgrifiad penodedig, neu
(iv)drwy atal dros dro, neu gadw’n ôl, daliad o unrhyw symiau;
(b)darpariaeth ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;
(c)darpariaeth ar gyfer rhoi cyngor neu rybuddion;
(d)darpariaeth ar gyfer derbyn ymgymeriadau i gymryd, neu i ymatal rhag cymryd, camau penodol;
(e)darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson;
(f)darpariaeth am adolygu, neu apelio yn erbyn, pethau a wnaed (gan gynnwys penderfyniadau a wnaed) mewn cysylltiad â gorfodi gofynion.
(4)Yn is-adran (3)(a), mae “modd penodedig” yn cynnwys (ymysg pethau eraill) modd a lunnir drwy gyfeirio at fater penodedig megis elw, incwm neu drosiant person.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)
I2A. 32 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(b)