RHAN 1RHEOLI TIR YN GYNALIADWY
Y ddyletswydd
3Eithriadau i’r ddyletswydd yn adran 2
Nid yw’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys i’r swyddogaethau a ganlyn—
(a)
y swyddogaeth o dan adran 16 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol);
(b)
y swyddogaeth o dan adran 17 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin), i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar gynllun y taliad sylfaenol;
(c)
y swyddogaeth o dan adran 49 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.), i’r graddau y mae’n cael ei harfer at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 16 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol), o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r fath;
(d)
y swyddogaeth o dan adran 49 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.), i’r graddau—
(i)
y mae’r swyddogaeth honno’n cael ei harfer at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 17 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin), o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, a
(ii)
y mae’r swyddogaeth honno’n cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar y cynllun taliad sylfaenol;
(e)
swyddogaeth o dan ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 16);
(f)
swyddogaeth o dan ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 17), i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar y cynllun taliad sylfaenol.