RHAN 3MATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL

PENNOD 1CASGLU A RHANNU DATA

27Gweithgaredd perthnasol: gofyniad i ddarparu gwybodaeth

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal gweithgaredd perthnasol (ac nad yw’n berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath) ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd i’r graddau y mae’n cael ei gynnal yng Nghymru.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal gweithgaredd perthnasol (ac nad yw’n berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath) ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd i’r graddau y mae’n cael ei gynnal yng Nghymru.

(3)

Gweler adran 28 am ddarpariaeth ynghylch ystyr “gweithgaredd perthnasol”.

(4)

Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) neu (2) ar berson mewn perthynas â gweithgaredd perthnasol i’r graddau y cynhelir y gweithgaredd ac eithrio i wneud elw neu i gael budd.

(5)

Nid yw gofyniad a osodir ar berson o dan is-adran (1) neu (2) yn gymwys i ba wybodaeth bynnag y byddai gan y person, mewn achos cyfreithiol, yr hawl i wrthod ei darparu ar sail braint gyfreithiol.

(6)

Rhaid i ofyniad o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.