RHAN 3MATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL
PENNOD 1CASGLU A RHANNU DATA
26Ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”
(1)
Mae’r adran hon yn cael effaith at ddibenion y Bennod hon.
(2)
“Cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth” yw cadwyn gyflenwi ar gyfer darparu eitemau o fwyd neu ddiod i unigolion er mwyn eu bwyta a’u hyfed yn bersonol pan fo’r eitemau wedi eu gwneud o’r cyfan neu ran o’r canlynol neu’n cynnwys y cyfan neu ran o’r canlynol, neu wedi eu cynhyrchu gan ddefnyddio (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a hynny’n gyfan gwbl ai peidio), y cyfan neu ran ohonynt—
(a)
unrhyw beth a dyfir neu a gynhyrchir fel arall wrth amaethu,
(b)
unrhyw anifail a gedwir wrth amaethu, neu
(c)
unrhyw anifail neu unrhyw beth arall a gymerir o’r gwyllt.
(3)
Y personau mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth yw—
(a)
yr unigolion y darperir eitemau o fwyd a diod iddynt fel a ddisgrifir yn is-adran (2) (“y defnyddwyr olaf”),
(b)
y personau sy’n amaethu neu (yn ôl y digwydd) sy’n cymryd pethau o’r gwyllt, ac
(c)
unrhyw berson yn y gadwyn gyflenwi rhwng y personau hynny a’r defnyddwyr olaf.
(4)
Y personau sydd â “cysylltiad agos” â’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth yw—
(a)
unrhyw berson sy’n cyflenwi hadau, stoc, cyfarpar, bwyd anifeiliaid, gwrtaith, plaladdwyr, meddyginiaethau neu eitemau tebyg i’r personau o fewn is-adran (3)(b) ar gyfer eu defnyddio wrth amaethu neu gymryd pethau o’r gwyllt,
(b)
unrhyw berson sy’n darparu, i bersonau o fewn is-adran (3)(b) neu (c), wasanaethau sy’n ymwneud ag—
(i)
iechyd anifeiliaid, neu blanhigion, sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi, neu
(ii)
diogelwch neu ansawdd y bwyd neu’r ddiod i’w ddarparu neu ei darparu i’r defnyddwyr olaf,
(c)
unrhyw berson sy’n cynnal gweithgareddau a allai effeithio ar fater a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii) o baragraff (b), a
(d)
cyrff sy’n cynrychioli personau o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (b) ac (c) o is-adran (3) a pharagraffau (a), (b) ac (c) o’r is-adran hon.
(5)
Mae gweithgareddau o’r math a grybwyllir yn is-adran (4)(c) i’w trin at ddibenion adran 25(1) a (2) fel pe baent yn gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi, ond nid yw hyn i’w ddarllen fel pe bai’n cyfyngu ar gyffredinolrwydd “cysylltiad” yn adran 25(1) a (2).
(6)
Yn yr adran hon, mae “hadau” yn cynnwys bylbiau a phethau eraill y mae planhigion yn tyfu ohonynt.