RHAN 3MATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL

PENNOD 1CASGLU A RHANNU DATA

25Cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth: gofyniad i ddarparu gwybodaeth

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person y mae cysylltiad rhyngddynt â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghymru.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person y mae cysylltiad rhyngddynt â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghymru.

(3)

Gweler adran 26 am ddarpariaeth ynghylch—

(a)

ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”,

(b)

pwy sydd mewn cadwyn gyflenwi o’r fath, ac

(c)

pwy sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath.

(4)

Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) neu (2) ar unigolyn mewn cadwyn gyflenwi i’r graddau y maent yn y gadwyn gyflenwi gan mai hwy, neu aelodau o’u haelwyd, yw’r defnyddwyr olaf (gweler adran 26).

(5)

Nid yw gofyniad a osodir ar berson o dan is-adran (1) neu (2) yn gymwys i ba wybodaeth bynnag y byddai gan y person, mewn achos cyfreithiol, yr hawl i wrthod ei darparu ar sail braint gyfreithiol.

(6)

Rhaid i ofyniad o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.