(1)Mae’r adran hon yn gymwys yn ystod y cyfnod y mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu gytuno i ddarparu, cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru y mae’r amodau eithriadol yn y farchnad a ddisgrifir yn y datganiad wedi cael, yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol ar eu hincwm.
(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar unrhyw bwerau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru (gan gynnwys o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir) i ddarparu cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol.
(4)Caniateir darparu cymorth ariannol o dan is-adran (2) drwy grant, benthyciad neu warant neu ar unrhyw ffurf arall.
(5)Caniateir darparu’r cymorth ariannol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(6)Caniateir i’r amodau (ymysg pethau eraill) gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol gael ei ad-dalu neu ar gyfer gwneud iawn amdano fel arall (gyda llog neu beidio).
(7)Nid oes dim yn is-adran (1) na (2) yn atal Gweinidogion Cymru rhag darparu, neu gytuno i ddarparu, cymorth ariannol o dan is-adran (2) ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith ynddo, ond mewn ymateb i gais a wneir yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)
I2A. 22 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(a)