RHAN 1RHEOLI TIR YN GYNALIADWY
Y ddyletswydd
2Dyletswydd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r amcanion
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru arfer pob swyddogaeth y cyfeirir ati yn yr adran hon yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol (ond gweler adran 3).
(2)
Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yw—
(a)
swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;
(b)
swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer—
(i)
amaethyddiaeth (gweler adran 51), neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu
(ii)
gweithgareddau ategol (gweler adran 52);
(c)
swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru reoleiddio—
(i)
amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu
(ii)
gweithgareddau ategol.
(3)
Nid yw is-adran (1) ond yn gymwys i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2)(b) a (2)(c) i’r graddau y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer i ddarparu cymorth ar gyfer neu i reoleiddio—
(a)
amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu
(b)
gweithgareddau ategol.