RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.
PENNOD 2PWERAU I ADDASU DEDDFWRIAETH SY’N YMWNEUD Â CHYMORTH ARIANNOL A CHYMORTH ARALL
19Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.
(2)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—
(a)
Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;
(b)
Rheoliad (EU) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau trosiannol penodol ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;
(c)
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;
(d)
i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop etc.;
(e)
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;
(f)
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2080/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 sy’n cychwyn cynllun cymorth y Gymuned ar gyfer mesurau coedwigaeth mewn amaethyddiaeth;
(g)
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2078/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy’n gydnaws â gofynion diogelu’r amgylchedd a chynnal cefn gwlad;
(h)
deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ym mharagraffau (a) i (g).