RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 2PWERAU I ADDASU DEDDFWRIAETH SY’N YMWNEUD Â CHYMORTH ARIANNOL A CHYMORTH ARALL

18Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)

Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)

Erthyglau 55 i 57 o’r Rheoliad CMO;

(b)

deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan y ddeddfwriaeth honno.