RHAN 2LL+CCYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 2LL+CPWERAU I ADDASU DEDDFWRIAETH SY’N YMWNEUD Â CHYMORTH ARIANNOL A CHYMORTH ARALL

17Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin;

(b)deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan y Rheoliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)