RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.
PENNOD 2PWERAU I ADDASU DEDDFWRIAETH SY’N YMWNEUD Â CHYMORTH ARIANNOL A CHYMORTH ARALL
17Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.
(2)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—
(a)
Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin;
(b)
deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan y Rheoliad hwnnw.