RHAN 2LL+CCYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 2LL+CPWERAU I ADDASU DEDDFWRIAETH SY’N YMWNEUD Â CHYMORTH ARIANNOL A CHYMORTH ARALL

16Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr cynllun y taliad sylfaenol yw Cynllun y Taliad Sylfaenol o dan Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (“y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol”);

(b)ystyr “deddfwriaeth sy’n llywodraethu Cynllun y Taliad Sylfaenol” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(i)y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(ii)unrhyw Reoliad Dirprwyedig y Cyngor, neu Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, a wnaed o dan y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(iii)unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir arall sy’n ymwneud â gweithredu cynllun y taliad sylfaenol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)