RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 1PŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH

15Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiad o dan adran 14

Wrth lunio adroddiad o dan adran 14, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)

y dibenion a bennir yn adran 8(2);

(b)

pob adroddiad a gyhoeddir o dan adran 13 mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd y mae’r adroddiad o dan adran 14 yn ymwneud ag ef;

(c)

yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 14;

(d)

unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.