(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon (“Adroddiad Effaith”) mewn perthynas â phob cyfnod adrodd.
(2)Rhaid i’r Adroddiad Effaith nodi’r dibenion y darparwyd cymorth ar eu cyfer yn ystod y cyfnod adrodd.
(3)Rhaid i’r Adroddiad Effaith hefyd nodi asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cymorth hwnnw, gan gynnwys eu hasesiad o’r canlynol—
(a)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion a fwriadwyd, a
(b)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth darparu’r cymorth gyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.
(4)Caiff yr Adroddiad Effaith hefyd asesu ac adrodd ar unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol at ddibenion asesu effaith ac effeithiolrwydd cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—
(a)cyhoeddi’r Adroddiad Effaith sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a
(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.
(6)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—
(a)yn achos yr Adroddiad Effaith cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym, ac sy’n dod i ben â 31 Rhagfyr 2029;
(b)yn achos Adroddiadau Effaith dilynol, cyfnodau olynol o bum mlynedd.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (6) drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)