(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â—
(a)gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth wedi eu bodloni;
(b)y canlyniadau, pan fo cymorth wedi ei ddarparu heb i feini prawf cymhwysedd fod wedi eu bodloni;
(c)gorfodi cydymffurfedd ag unrhyw amodau y darperir neu y darparwyd cymorth yn ddarostyngedig iddynt;
(d)monitro i ba raddau y mae pwrpas y cymorth wedi ei gyflawni;
(e)ymchwilio i droseddau a amheuir mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth neu ddarparu cymorth.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth—
(a)ynghylch darparu gwybodaeth;
(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;
(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;
(d)ynghylch y broses o bennu a yw meini prawf cymhwysedd neu amodau wedi eu bodloni mewn cysylltiad â darparu’r cymorth;
(e)ynghylch cadw cofnodion;
(f)ynghylch adennill neu wneud iawn am yr holl gymorth ariannol neu unrhyw ran ohono (gyda llog neu hebddo);
(g)ynghylch dal cymorth yn ôl, yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
(h)ynghylch camau i’w cymryd, gan berson y darperir neu y darparwyd cymorth iddo, er mwyn unioni unrhyw amod a dorrwyd sy’n gymwys i’r cymorth hwnnw;
(i)ynghylch cosbau ariannol (gan gynnwys cosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at swm unrhyw gymorth ariannol);
(j)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;
(k)sy’n gwahardd person rhag cael cymorth, neu gymorth o ddisgrifiad a bennir, am gyfnod a bennir neu hyd nes i amodau a bennir gael eu bodloni;
(l)ynghylch apelau;
(m)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn) i berson.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.
(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2)(i) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer talu llog ar unrhyw swm y gellir ei adennill o ba ddiwrnod bynnag (pa un ai y diwrnod y darparwyd y cymorth o dan sylw, neu ddiwrnod arall) y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau, neu a bennir o dan y rheoliadau.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “a bennir” yw wedi ei bennu mewn, neu wedi ei benderfynu o dan, reoliadau o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)