RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 1PŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH

11Cynlluniau cymorth amlflwydd

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun, a elwir yn “cynllun cymorth amlflwydd”, sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch y defnydd y disgwylir ei wneud o’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 8 yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn gymwys iddo.

(2)

Rhaid i gynllun cymorth amlflwydd—

(a)

pennu’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef;

(b)

nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu darparu cymorth yn ystod y cyfnod er mwyn cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy (yn unol ag adran 2);

(c)

pan fwriedir darparu cymorth yn ystod y cyfnod o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3), disgrifio pob cynllun—

(i)

sy’n weithredol, neu

(ii)

y mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl y bydd yn dod yn weithredol yn ystod y cyfnod;

(d)

disgrifio unrhyw gymorth y bwriedir iddo gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ac eithrio o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).

(3)

Y cyfnod y bydd y cynllun cyntaf yn gymwys mewn perthynas ag ef yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â 1 Ionawr 2025.

(4)

Ni chaiff y cyfnod y bydd cynlluniau dilynol yn gymwys mewn perthynas ag ef fod yn fyrrach na phum mlynedd.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cynllun yn dod i ben heb i gynllun newydd fod yn ei le.

(6)

Rhaid i gynllun sy’n cael ei lunio o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a’i gyhoeddi, gan Weinidogion Cymru—

(a)

yn achos y cynllun cyntaf, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef, a

(b)

yn achos pob cynllun dilynol, o leiaf 12 mis cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef.

(7)

Os yw, cyn diwedd y cyfnod y mae cynllun yn gymwys mewn perthynas ag ef, unrhyw wybodaeth a nodir neu a ddisgrifir yn y cynllun yn unol â pharagraffau (b), (c) neu (d) o is-adran (2) yn peidio â bod yn gywir neu’n gyflawn, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cynllun cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny.

(8)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cynllun, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)

cyhoeddi’r cynllun diwygiedig, a

(b)

ei osod gerbron Senedd Cymru.