RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 1PŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH

10Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am gymorth

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, chyhoeddi gwybodaeth benodedig am gymorth sy’n cael ei ddarparu neu sydd wedi ei ddarparu.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod gofyniad ar unrhyw berson (gan gynnwys ar Weinidogion Cymru).

(3)

Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn cynnwys gwybodaeth am—

(a)

derbynnydd unrhyw gymorth a ddarperir;

(b)

swm unrhyw gymorth a ddarperir;

(c)

dibenion unrhyw gymorth a ddarperir.

(4)

Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).