Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 - Rheoli Tir Yn Gynaliadwy

Yr amcanion

14.Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn nodi pedwar amcan RhTG ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion hynny. Yr amcan yw sicrhau bod y sector amaethyddol yng Nghymru yn cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy, yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt, a hefyd yn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

15.Un o nodweddion pob un o’r amcanion yw’r bwriad i ddiwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau – sef rhywbeth sy’n adlewyrchu’r “egwyddor datblygu cynaliadwy” yn adran 5 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ogystal, bwriedir i bob amcan ategu’r nodau llesiant yn adran 4 o’r Ddeddf honno, a gynlluniwyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

16.Mae’r fframwaith RhTG, sy’n cynnwys yr amcanion RhTG a’r ddyletswydd RhTG, wedi ei ddatblygu drwy broses ymgynghori gynhwysfawr a gofnodwyd yn Brexit a’n Tir(1), Ffermio Cynaliadwy a’n Tir(2), a Phapur Gwyn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)(3). Maent hefyd yn cyd-fynd â rhaglenni a mentrau rhyngwladol megis rhaglen y Cenhedloedd Unedig, “Decade on Ecosystem Restoration 2021-2030”, a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2019.

Adran 1 - Yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy

17.Mae adran 1 yn sefydlu pedwar amcan RhTG.

18.Mae is-adran (2) yn darparu mai’r amcan cyntaf yw cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy. Yn ymarferol, mae hyn yn debygol o ofyn am ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol, sy’n hyrwyddo safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid ac sy’n diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un fath.

19.Mae is-adran (6) yn darparu, at ddibenion yr amcan cyntaf, fod ffactorau perthnasol o ran pa un a yw bwyd a nwyddau eraill yn cael eu cynhyrchu mewn modd cynaliadwy yn cynnwys gwytnwch busnesau amaethyddol o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt a’u cyfraniad i’r economi leol, ymysg pethau eraill.

20.Mae is-adran (3) yn darparu mai’r ail amcan yw lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd.

21.Mae lliniaru newid yn yr hinsawdd yn debygol o gynnwys lleihau newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithredol ac allyriadau nwyon tŷ gwydr ymgorfforedig yn ogystal â chynnal a chynyddu gallu’r tir amaethyddol i ddal ac atafaelu carbon. Allyriadau gweithredol yw’r rheini sy’n cael eu hallyrru wrth gwblhau gweithred, ac allyriadau ymgorfforedig yw’r rheini sy’n cael eu hallyrru gan gynnyrch neu ddeunydd wrth eu cynhyrchu a’u cludo (e.e. allyriadau yn sgil cynhyrchu gwrtaith).

22.Mae addasu i newid yn yr hinsawdd yn debygol o gynnwys gweithredu i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Gall y camau gweithredu hyn gynnwys, er enghraifft, newidiadau mewn arferion er mwyn sicrhau’r cynhyrchiant parhaus o fwyd a nwyddau eraill, mesurau rheoli llifogydd yn naturiol a’r defnydd o goed i roi cysgod.

23.Mae is-adran (4) yn darparu mai’r trydydd amcan yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu. Gall cynnal gwytnwch ecosystemau ofyn am reoli ecosystemau yn weithredol a chamau gweithredu i atal dirywiad. Gall gwella gwytnwch ecosystemau ofyn am, er enghraifft, fesurau megis creu cynefinoedd a newidiadau mewn arferion (e.e. camau gweithredu yn ymwneud ag ansawdd dŵr).

24.Mae is-adran (7) yn disgrifio ffactorau penodol sydd (ymysg eraill) yn berthnasol i wytnwch ecosystemau at ddibenion y trydydd amcan. Gall ecosystemau gwydn, er enghraifft, fod yn fwy bioamrywiol, a all fod o gymorth i arafu a gwrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac â’r gallu i addasu’n fwy i newid, gan gynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd.

25.Gall y manteision a geir gan ecosystemau gwydn gynnwys, er enghraifft, aer glân, dŵr glân, storio carbon yn well, gwell iechyd pridd a chynnydd ym mhresenoldeb ac effeithiolrwydd peillwyr.

26.Mae is-adran (5) yn darparu mai’r pedwerydd amcan yw cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.

27.Mae’r pedwerydd amcan yn ymwneud â diogelu, cynnal a gwella adnoddau diwylliannol a chefn gwlad, a hyrwyddo mynediad ac ymgysylltiad â hwy. Mae cefn gwlad yn cynnwys, er enghraifft, tir amaeth a choetir, yn ogystal â phrydferthwch yr amgylchedd naturiol. Gall adnoddau diwylliannol gynnwys, er enghraifft, safleoedd ac adeiladau hanesyddol. Mae’r amcan hwn hefyd yn ymwneud â chynnal y Gymraeg, er enghraifft drwy gefnogi pobl a chymunedau sy’n defnyddio’r Gymraeg, yn ogystal â hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth a chyfleoedd i’w defnyddio a’i lledaenu.

28.Mae is-adran (8) yn diffinio “adnoddau diwylliannol” at ddibenion y pedwerydd amcan.

Y ddyletswydd

Adran 2 - Dyletswydd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r amcanion

29.Mae adran 2(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau penodol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol.

30.Er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd hon, bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried pob un o’r pedwar amcan RhTG pan fyddant yn arfer swyddogaeth y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddi ac wedi hyn bydd angen arfer y swyddogaeth yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion hynny (i’w hystyried gyda’i gilydd), i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol. Bwriedir i’r amcanion RhTG ategu ei gilydd, ac, mewn rhai achosion, golyga hyn y caiff camau gweithredu eu cymryd sy’n cyfrannu at yr holl amcanion, er nid o reidrwydd yn gyfartal. Mewn achosion eraill, efallai na fydd hyn yn bosibl, er enghraifft, pan nad yw arfer swyddogaeth benodol yn cael unrhyw effaith mewn cysylltiad ag un neu ragor o’r amcanion.

31.Ym mhob achos, bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau perthnasol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at yr amcanion (i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol). Golyga hyn pan fo mwy nag un opsiwn i Weinidogion Cymru, bydd angen iddynt ddewis yr opsiwn y maent yn ystyried sy’n fwyaf buddiol yn nhermau ei gyfraniad at gyflawni’r amcanion RhTG.

32.Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddynt wedi eu nodi yn is-adrannau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 3.

33.Mae is-adran (2) yn darparu bod y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddynt yn:

34.Mae is-adran (3) yn darparu nad yw’r ddyletswydd RhTG ond yn gymwys i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2)(b) a (2)(c) i’r graddau bod y swyddogaethau hynny’n cael eu harfer i ddarparu cymorth ar gyfer neu i reoleiddio, (a) amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu (b) gweithgareddau ategol (ac nid felly i’r graddau yr arferir y swyddogaethau hynny at ryw ddiben arall).

35.Diffinnir “amaethyddiaeth” yn adran 51; diffinnir “gweithgaredd ategol” yn adran 52; a diffinnir “swyddogaethau” yn adran 54.

36.Gall gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth gynnwys, er enghraifft, gweithgareddau neu ddigwyddiadau hamdden pan fo prif ddefnydd y tir yn parhau’n amaethyddol yn bennaf e.e. gweithgareddau neu ddigwyddiadau a gynhelir ar gyfer nifer penodol o ddyddiau yn unig yn ystod unrhyw flwyddyn benodol.

Adran 3 - Eithriadau rhag y ddyletswydd yn adran 2

37.Mae adran 3 yn darparu nad yw’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys i’r swyddogaethau a restrir ym mharagraffau (a) i (f).

38.Mae’r swyddogaethau a eithrir yn ymwneud yn bennaf â chynllun y taliad sylfaenol, gan gynnwys darpariaeth ganlyniadol a throsiannol sy’n ymwneud â chynllun y taliad sylfaenol a’r polisi amaethyddol cyffredin. Mae cynllun y taliad sylfaenol yn system cymorth incwm cynhwysol nad yw’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion RhTG.

Monitro ac adrodd

39.Mae’r darpariaethau monitro ac adrodd yn gosod gofynion ar Weinidogion Cymru i fonitro ac adrodd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion RhTG. Mae’r darpariaethau yn manylu ar y gofyniad i osod dangosyddion a thargedau, yn ogystal â llunio adroddiad. Mae’r darpariaethau adrodd a monitro yn gwneud darpariaeth ar gyfer craffu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r Senedd. Maent hefyd yn gweithredu i ddarparu sylfaen dystiolaeth barhaus ar gyfer cefnogi tueddiadau polisi’r dyfodol a’r arferion gorau i’w canfod.

Adran 4 - Dangosyddion a thargedau rheoli tir yn gynaliadwy

40.Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi dangosyddion a thargedau er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion RhTG drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt.

41.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio datganiad sy’n nodi dangosyddion sydd i’w cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion RhTG drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt, a thargedau mewn perthynas â’r dangosyddion hynny.

42.Bydd dangosyddion yn darparu metrigau mewn modd y gellir mesur cyfraniad cam gweithredu tuag at yr amcanion RhTG. Bydd targedau yn nodi’r lefel o gynnydd a ddymunir yn erbyn y metrig y mae dangosydd penodol yn ei fanylu.

43.Er enghraifft, gellir mynd i’r afael â’r trydydd amcan (“cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu”) drwy sawl dangosydd. Gallai un ohonynt fod yn ostyngiad yn lefelau llygryddion mewn afonydd sy’n llifo is-law gweithgareddau amaethyddol ac ategol. Wedi hyn, byddai targed penodol yn cael ei osod yn erbyn y dangosydd hwnnw a byddai’r dangosydd a’r targed yn cael eu hadrodd arnynt yn yr adroddiad RhTG a lunnir o dan adran 6.

44.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i’r datganiad gynnwys, yn isafswm, o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan RhTG, ac o leiaf un targed neilltuol sy’n ymwneud ag o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan RhTG. Mae hyn er mwyn sicrhau y cyfrifir cynnydd yn gywir ac yn effeithiol.

45.Mae is-adrannau (3) i (5) yn darparu y caiff y datganiad hefyd nodi dangosyddion pellach (y caiff pob un fod ar gyfer un amcan RhTG neu ar gyfer mwy nag un), a thargedau pellach (y caiff pob un ymwneud ag un dangosydd, pa un a yw’n cael ei nodi o dan is-adran (2) neu is-adran (3), neu â mwy nag un).

46.Mae is-adran (6) yn darparu y caiff dangosydd neu darged ymwneud â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

47.Mae is-adran (7) yn darparu y caniateir gosod targed drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

48.Mae is-adran (8) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r datganiad a’i osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr 2025.

49.Mae is-adran (9) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r datganiad ar unrhyw adeg ac mae is-adran (10) yn darparu bod is-adrannau (2) i (8) yn gymwys mewn perthynas â datganiad diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r datganiad gwreiddiol.

50.Mae is-adran (11) yn darparu pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r datganiad, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi’r datganiad diwygiedig a’i osod gerbron Senedd Cymru.

Adran 5 - Camau i’w cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau

51.Mae adran 5 yn nodi’r camau y mae rhaid eu cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau.

52.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i adroddiadau, polisïau a materion eraill penodol wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau.

53.Mae hyn yn ceisio sicrhau bod y gwaith monitro ac adrodd ar RhTG yn rhoi ystyriaeth briodol i nodau, polisïau a gwaith adrodd ar gynaliadwyedd ehangach, i’r graddau y maent yn berthnasol.

54.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn briodol wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau.

Adran 6 - Adroddiadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy

55.Mae adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiadau RhTG ac yn manylu ar gynnwys ac amseru’r adroddiadau hynny.

56.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad mewn perthynas â phob cyfnod adrodd (fel y’i diffinnir gan is-adran (9)).

57.Mae is-adran (1)(a) yn darparu bod rhaid i’r adroddiad nodi asesiad Gweinidogion Cymru o’r cynnydd cronnus a wnaed, ers i adran 2 ddod i rym, tuag at gyflawni’r amcanion RhTG drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt.

58.Mae is-adran (1)(b) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad nodi asesiad Gweinidogion Cymru o’r cynnydd a wnaed, yn ystod y cyfnod adrodd, tuag at gyflawni’r amcanion hynny drwy arfer y swyddogaethau hynny.

59.Mae is-adran (2) yn datgan bod rhaid i’r adroddiad nodi, mewn perthynas â phob dangosydd yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig) a gyhoeddir o dan adran 4, y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r dangosydd hwnnw yn ystod y cyfnod adrodd a sut y mae hynny wedi cyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

60.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i’r adroddiad nodi, mewn perthynas â phob targed yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig), pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio.

61.Mae is-adrannau (4) i (6) yn pennu’r ddarpariaeth y mae rhaid i’r adroddiad ei gwneud yn ddibynnol ar a yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd (is-adran (4)), nad yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd (is-adran (5)), neu nad yw Gweinidogion Cymru hyd yma wedi gallu penderfynu pa un a yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio (is-adran (6)).

62.Mae is-adran (7) yn nodi materion eraill y caiff adroddiadau RhTG eu hasesu ac adrodd arnynt. Gall y rhain gynnwys y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd allweddol mewn perthynas â chyflawni’r amcanion RhTG, a’r effaith y mae’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion hynny yn ei chael ar gyflawni nodau eraill e.e. nod Cymru sero net 2050.

63.Mae is-adran (8) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl pob cyfnod adrodd, gyhoeddi’r adroddiad sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd a’i osod gerbron y Senedd.

64.Mae is-adran (9) yn diffinio’r “cyfnod adrodd” ac mae is-adran (10) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i ddiwygio is-adran (9). Mae’r pŵer hwn i wneud rheoliadau yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, er enghraifft, hyd y cyfnod adrodd. Mae’r pŵer hwn i wneud rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol (adran 50(6) a (7)).

Adran 7 - Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiadau

65.Mae adran 7 yn nodi’r adroddiadau, y polisïau a’r materion eraill y mae rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth lunio adroddiadau RhTG. Mae’n ceisio sicrhau bod adrodd ar RhTG yn cael ei gwblhau yng nghyd-destun adrodd a chamau gweithredu cynaliadwyedd ehangach a wneir yng Nghymru a bod data priodol yn cael ei ystyried wrth adrodd am gynnydd tuag at yr amcanion RhTG. Mae hefyd yn ceisio annog dull cydlynus wrth adrodd am gamau gweithredu amgylcheddol a chamau gweithredu eraill ledled Cymru.