4.Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy (“RhTG”) yng Nghymru.
5.Mae’r Ddeddf yn sefydlu’r amcanion RhTG yn fframwaith trosfwaol ar gyfer polisi amaethyddol, gan ei fod yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Gwneir darpariaeth ar gyfer monitro ac adrodd manwl: y bwriad yw caniatáu asesu cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion, darparu sylfaen dystiolaeth bwysig, a hwyluso craffu ac atebolrwydd.
6.Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer amaethyddiaeth, ac mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth. Mae’r Ddeddf hon yn rhestru dibenion penodol y caiff cymorth ei ddarparu ar eu cyfer (er y caiff hefyd ei ddarparu ar gyfer dibenion eraill nad ydynt wedi eu rhestru). Mae’r dibenion hyn yn cynnwys dibenion sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd, newid yn yr hinsawdd, nwyon tŷ gwydr, ansawdd yr aer ac ansawdd dŵr ac iechyd anifeiliaid. Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer o gymorth yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion RhTG. Y bwriad yw y bydd y dull integredig hwn yn galluogi’r cynhyrchiant cynaliadwy o fwyd a nwyddau eraill ochr yn ochr â chyflawni’r camau gweithredu i gefnogi’r amcanion eraill sy’n ymwneud â RhTG.
7.Caniateir hefyd arfer y pŵer o gymorth mewn cysylltiad â gweithgareddau penodol sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Diffinnir rhain yn y Ddeddf fel “gweithgareddau ategol”.
8.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chynhyrchion amaethyddol sy’n disodli’r ddarpariaeth bresennol (sydd â therfyn amser iddi) ar gyfer Cymru yn Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (y cyfeirir ati drwy’r Nodyn Esboniadol hwn fel “Deddf 2020”). (Mae hefyd yn diddymu’r Atodlen honno ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2020.)
9.Mae’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 er mwyn ehangu pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf honno, fel eu bod yn gallu gwneud rheoliadau sy’n caniatáu i denant daliad amaethyddol gael gafael ar weithdrefnau cymrodeddu, pan fo landlord wedi gwrthod cais i amrywio tenantiaeth, neu gais am ganiatâd, a wnaed at ddibenion y tenant i gael mynediad at fathau penodol o gymorth (gan gynnwys cymorth a ddarperir o dan adran 8).
10.Mae’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 i ganiatáu i’r tenant o dan denantiaeth busnes fferm gael gafael ar weithdrefnau cymrodeddu, pan fo landlord wedi gwrthod cais i amrywio’r denantiaeth, neu gais am ganiatâd, pan wnaed y cais at ddibenion penodedig. Y dibenion hynny yw: yn gyntaf, galluogi’r tenant i gael gafael ar fathau penodol o gymorth (gan gynnwys cymorth a ddarperir o dan adran 8); ac yn ail, cydymffurfio â dyletswydd statudol. Mae adran 8A(7) o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â chymrodeddu o’r fath. Mae geiriad hefyd wedi ei fewnosod yn Neddf 1995 yn nodi’r gofynion gweithdrefnol ar gyfer unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 8A.
11.Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 er mwyn galluogi ychwanegu amodau pellach at drwyddedau cwympo coed ac i alluogi trwyddedau i gael eu diwygio, eu hatal dros dro neu eu dirymu mewn amgylchiadau penodol.
12.Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 er mwyn gwahardd y defnydd o faglau (ac atalyddion cebl eraill) a thrapiau glud.
13.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 57 o adrannau a 3 Atodlen. Rhennir y Bil i 6 Rhan fel a ganlyn: