RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau

99Cais i amrywio neu ddileu amodau

(1)

Pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, caiff unrhyw berson sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i’r amodau gael eu hamrywio neu eu dileu.

(2)

Rhaid i’r cais nodi pa amrywiad neu ddilead o amodau y gwneir cais amdano.

(3)

Mae adrannau 90 i 95 (ac eithrio adran 90(4) a (5)(a)) yn gymwys i gais o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig.

(4)

Ar gais o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, yn ogystal ag amrywio neu ddileu amodau’r cydsyniad, osod amodau newydd sy’n ganlyniadol ar yr amrywiad neu’r dilead.

(5)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.