RHAN 3LL+CADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

Addasiadau (ddim yn newid testun)

PENNOD 2LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodauLL+C

98Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddoLL+C

(1)Rhaid i gydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod ac sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad.

(2)Os rhoddir cydsyniad heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (1), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i rhoddwyd.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys

(a)i gydsyniad o dan adran 89(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni eisoes);

(b)i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig (gweler adran 113).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 98 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)