RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG
Rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau
98Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddo
(1)
Rhaid i gydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod ac sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad.
(2)
Os rhoddir cydsyniad heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (1), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i rhoddwyd.
(3)
Nid yw’r adran hon yn gymwys—
(a)
i gydsyniad o dan adran 89(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni eisoes);
(b)
i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig (gweler adran 113).