RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG
Ymdrin â cheisiadau am gydsyniad
96Rhoi neu wrthod cydsyniad
(1)
Wrth benderfynu cais am gydsyniad adeilad rhestredig, caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi neu wrthod cydsyniad.
(2)
Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad adeilad rhestredig, rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu—
(a)
yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef,
(b)
safle’r adeilad, ac
(c)
unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd gan yr adeilad.
(3)
Mae cydsyniad adeilad rhestredig yn cael effaith er budd yr adeilad rhestredig a’r tir y mae arno, a phob person sydd â buddiant yn yr adeilad a’r tir am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i delerau’r cydsyniad.