Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Ni chaiff awdurdod cynllunio y gwneir cais am gydsyniad adeilad rhestredig iddo roi cydsyniad oni bai—
(a)ei fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais, gan roi manylion y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer, a
(b)bod yr amod cyntaf neu’r ail amod wedi ei fodloni.
(2)Yr amod cyntaf yw bod yr 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru wedi dod i ben heb i Weinidogion Cymru naill ai—
(a)cyfarwyddo’r awdurdod i atgyfeirio’r cais atynt o dan adran 94, neu
(b)hysbysu’r awdurdod bod angen rhagor o amser arnynt i ystyried pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.
(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi hysbysu’r awdurdod nad ydynt yn bwriadu ei gyfarwyddo i atgyfeirio’r cais atynt.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw is-adran (1) yn gymwys i geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio—
(a)nad yw is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, neu
(b)bod is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (4) neu gan gyfarwyddyd o dan baragraff (a).
(6)Caiff cyfarwyddyd ymwneud—
(a)â chais penodol am gydsyniad adeilad rhestredig, neu
(b)â cheisiadau sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd,
ac mae’n cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gais nad yw’r awdurdod wedi ei benderfynu.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru bennu disgrifiad o geisiadau o dan is-adran (4) neu (6)(b) drwy gyfeirio at farn unrhyw berson, argaeledd cyngor arbenigol mewn perthynas â’r ceisiadau, neu unrhyw amgylchiad arall.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 95(1) eithrio (4.11.2024) gan Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/930), rhlau. 1(2), 11
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 95(1)-(3) mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)
I3A. 95(4)-(7) mewn grym ar 9.9.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 2(1)(f)