RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Ymdrin â cheisiadau am gydsyniad

95Hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniad

(1)

Ni chaiff awdurdod cynllunio y gwneir cais am gydsyniad adeilad rhestredig iddo roi cydsyniad oni bai—

(a)

ei fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais, gan roi manylion y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer, a

(b)

bod yr amod cyntaf neu’r ail amod wedi ei fodloni.

(2)

Yr amod cyntaf yw bod yr 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru wedi dod i ben heb i Weinidogion Cymru naill ai—

(a)

cyfarwyddo’r awdurdod i atgyfeirio’r cais atynt o dan adran 94, neu

(b)

hysbysu’r awdurdod bod angen rhagor o amser arnynt i ystyried pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.

(3)

Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi hysbysu’r awdurdod nad ydynt yn bwriadu ei gyfarwyddo i atgyfeirio’r cais atynt.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw is-adran (1) yn gymwys i geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio—

(a)

nad yw is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(b)

bod is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (4) neu gan gyfarwyddyd o dan baragraff (a).

(6)

Caiff cyfarwyddyd ymwneud—

(a)

â chais penodol am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(b)

â cheisiadau sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd,

ac mae’n cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gais nad yw’r awdurdod wedi ei benderfynu.

(7)

Caiff Gweinidogion Cymru bennu disgrifiad o geisiadau o dan is-adran (4) neu (6)(b) drwy gyfeirio at farn unrhyw berson, argaeledd cyngor arbenigol mewn perthynas â’r ceisiadau, neu unrhyw amgylchiad arall.