RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG
Ymdrin â cheisiadau am gydsyniad
94Atgyfeirio cais at Weinidogion Cymru
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio i atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig atynt i’w benderfynu yn lle ymdrin â’r cais ei hun.
(2)
Caiff cyfarwyddyd ymwneud â chais penodol, neu â cheisiadau mewn perthynas ag adeiladau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)
Rhaid i awdurdod cynllunio atgyfeirio cais y mae cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn gymwys iddo at Weinidogion Cymru.
(4)
Rhaid i awdurdod cynllunio atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, heb gael cyfarwyddyd i wneud hynny, os ceisir y cydsyniad o ganlyniad i gynigion a gynhwysir mewn cais am orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion sy’n ymwneud ag adeiladu neu weithredu rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).
(5)
Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried ceisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
(6)
Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais yn derfynol.