Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Rhaid i awdurdod cynllunio ymdrin â chais am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i’r awdurdod oni bai—
(a)ei bod yn ofynnol iddo beidio ag ystyried y cais o dan adran 90(6) neu 91(3), neu ei fod yn gwrthod gwneud hynny o dan adran 93 (ceisiadau tebyg), neu
(b)ei bod yn ofynnol iddo atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)gosod gofynion sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru;
(b)gosod gofynion ar gyfer ymgynghori neu hysbysu mewn perthynas â cheisiadau;
(c)darparu na chaniateir penderfynu cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;
(d)ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu ceisiadau, ystyried ymatebion gan bersonau yr ymgynghorir â hwy neu a hysbysir;
(e)gwneud darpariaeth ynghylch o fewn pa gyfnod o amser y mae rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru ymdrin â chais.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio i hysbysu personau a bennir yn y cyfarwyddyd—
(a)am gais a wneir i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, a
(b)am y penderfyniad a wneir gan yr awdurdod ar y cais.
(4)Caiff cyfarwyddyd ymwneud—
(a)ag achos penodol, neu
(b)ag achosion sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 92(1)(3)(4) mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)
I3A. 92(2) mewn grym ar 9.9.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 2(1)(e)