RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Ymdrin â cheisiadau am gydsyniad

92Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chais

(1)

Rhaid i awdurdod cynllunio ymdrin â chais am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i’r awdurdod oni bai—

(a)

ei bod yn ofynnol iddo beidio ag ystyried y cais o dan adran 90(6) neu 91(3), neu ei fod yn gwrthod gwneud hynny o dan adran 93 (ceisiadau tebyg), neu

(b)

ei bod yn ofynnol iddo atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

gosod gofynion sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru;

(b)

gosod gofynion ar gyfer ymgynghori neu hysbysu mewn perthynas â cheisiadau;

(c)

darparu na chaniateir penderfynu cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;

(d)

ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu ceisiadau, ystyried ymatebion gan bersonau yr ymgynghorir â hwy neu a hysbysir;

(e)

gwneud darpariaeth ynghylch o fewn pa gyfnod o amser y mae rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru ymdrin â chais.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio i hysbysu personau a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)

am gais a wneir i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, a

(b)

am y penderfyniad a wneir gan yr awdurdod ar y cais.

(4)

Caiff cyfarwyddyd ymwneud—

(a)

ag achos penodol, neu

(b)

ag achosion sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.