RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG
Ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig
91Hysbysiad o gais i berchnogion adeilad
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig—
(a)
rhoi hysbysiad o’r cais i bob person (ac eithrio’r ceisydd) sydd ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau yn berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a
(b)
cynnwys gyda’r cais dystysgrif a ddyroddir gan y ceisydd sy’n datgan y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion yn y rheoliadau.
(2)
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ffurf a chynnwys hysbysiad neu dystysgrif (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);
(b)
sut y mae rhaid rhoi hysbysiad (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol ei gyhoeddi).
(3)
Ni chaniateir i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei ystyried os na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (1) neu (2).
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, pan fo hysbysiad wedi ei roi o gais yn unol â gofynion a osodir o dan yr is-adrannau hynny—
(a)
na chaniateir penderfynu’r cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;
(b)
bod rhaid i’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu’r cais, ystyried sylwadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson sy’n berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig.
(5)
Mae’n drosedd i berson, wrth ymhonni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan is-adran (1) neu (2)—
(a)
dyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu
(b)
yn ddi-hid ddyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.
(6)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(7)
Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—
(a)
perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu
(b)
tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.