RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2COFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL
Adolygu penderfyniadau i ddiwygio’r gofrestr i ychwanegu henebion etc.
9Adolygu penderfyniad i ychwanegu heneb at y gofrestr etc.
(1)
Pan fo Gweinidogion Cymru—
(a)
yn ychwanegu heneb at y gofrestr, neu
(b)
yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb,
rhaid i’r hysbysiad o dan adran 4(2) ddatgan y caiff unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar yr heneb wneud cais i Weinidogion Cymru sy’n gofyn am adolygiad o’r penderfyniad.
(2)
Ni chaniateir gwneud cais ond ar y sail nad yw’r heneb neu’r rhan o’r heneb (yn ôl y digwydd) o bwysigrwydd cenedlaethol.
(3)
Pan fo perchennog neu feddiannydd yn gwneud cais am adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person—
(a)
i gynnal yr adolygiad, a
(b)
i wneud penderfyniad ar yr adolygiad.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu disgrifiadau o achosion pan fo rhaid iddynt hwy, yn lle person a benodir ganddynt, gynnal adolygiad a gwneud penderfyniad arno.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddiwygiad i’r gofrestr y maent yn ystyried ei fod yn briodol i roi effaith i’r penderfyniad ar adolygiad.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)—
(a)
i ychwanegu sail ar gyfer adolygiad;
(b)
i addasu sail ar gyfer adolygiad;
(c)
i ddileu sail ar gyfer adolygiad.