Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Mae gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—
(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru, a
(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).
(2)Pan—
(a)bo gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb gael ei awdurdodi o dan is-adran (1), a
(b)bo’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,
mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad hwnnw.
(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Ddeddf hon fel cydsyniad adeilad rhestredig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 89 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)