RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Awdurdodi gwaith

89Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredig

(1)

Mae gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)

os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru, a

(b)

os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)

Pan—

(a)

bo gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb gael ei awdurdodi o dan is-adran (1), a

(b)

bo’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad hwnnw.

(3)

Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Ddeddf hon fel cydsyniad adeilad rhestredig.